Psalms 142

Gweddi am help

 Mascîl. Salm gan Dafydd, pan oedd yn yr ogof. a Gweddi.

1Dw i'n gweiddi'n uchel ar yr Arglwydd;
dw i'n pledio ar i'r Arglwydd fy helpu.
2Dw i'n tywallt y cwbl sy'n fy mhoeni o'i flaen,
ac yn dweud wrtho am fy holl drafferthion.
3Pan dw i wedi anobeithio'n llwyr,
rwyt ti'n gwylio'r ffordd i mi.
Maen nhw wedi cuddio magl
ar y llwybr o'm blaen i.
4Dw i'n edrych i'r dde –
ond does neb yn cymryd sylw ohono i.
Mae dianc yn amhosib! –
does neb yn poeni amdana i.
5Dw i'n gweiddi arnat ti, Arglwydd;
a dweud, “Ti ydy'r unig le saff i mi fynd,
does gen i neb arall ar dir y byw!”
6Gwranda arna i'n gweiddi, dw i'n teimlo mor isel.
Achub fi o afael y rhai sydd ar fy ôl;
maen nhw'n rhy gryf i mi.
7Gollwng fi'n rhydd o'r carchar yma,
er mwyn i mi foli dy enw di.
Bydd y rhai cyfiawn yn casglu o'm cwmpas
am dy fod ti wedi achub fy ngham.
Copyright information for CYM